Mae gwasanaethau EIP yn cynnig rhaglen Addysg Ffordd o Fyw i Gyflawni Potensial (LEAP) i bob unigolyn o dan wasanaethau EIP yng Nghymru, waeth beth yw’r canlyniadau sgrinio.
Mae’r rhaglen LEAP yn cael ei chyflwyno fel sesiwn 90 munud unwaith yr wythnos am chwe wythnos ac mae’n canolbwyntio ar hyrwyddo iechyd corfforol a ffyrdd iach o fyw drwy gynnig:
- Sesiynau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion y grŵp neu’r unigolyn
- Cyngor ymarferol ar reoli iechyd corfforol unigol
- Addysg o gwmpas ffyrdd iach o fyw
- Cefnogaeth o amgylch gosod nodau
- Amrywiaeth o bynciau gan gynnwys ymarfer corff, bwyta’n iach, diogelwch ar-lein, strategaethau ymdopi, sgîl-effeithiau meddyginiaeth ac arferion dyddiol
- Mynediad i staff sydd â chefndiroedd proffesiynol amrywiol
- Cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a’r rhaglen therapi antur LINKKKK